Cynllun Iaith Gymraeg
Cafodd ein Cynllun Iaith Gymraeg ei baratoi o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, sy’n rhoi’r Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
- Mae’r Ddeddf yn pennu tri pheth:
- Mae’n gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal wrth roi gwasanaeth i’r cyhoedd yng Nghymru;
- Mae’n rhoi i siaradwyr Cymraeg hawl absoliwt i ddefnyddio’r Gymraeg yn y llys;
- Mae’n sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i oruchwylio gwireddiad yr addewidion hyn a hybu a hwyluso defnydd y cynllun iaith Gymraeg.
Mae’n cynllun ni yn nodi sut y byddwn yn egluro ac yn cynnig y system Eiddo Deallusol i’r cwsmeriaid hynny sydd am gofrestru’u hawliau ED yn y Deyrnas Gyfunol drwy gyfrwng y Gymraeg, mor bell ag y bo hynny’n briodol i’r amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu’r tudalennau Cymraeg fel rhan o adolygiad cyffredinol o’n gwefan.
Mae’r canlynol ar hyn o bryd ar gael yn Gymraeg:
- Patentau: Canllaw Ymgeisio
- Patentau: Ffeithiau Sylfaenol
- Patentau: Deunydd Darllen Hanfodol
- Ffurflen Patentau 1
- Hawlfraint: Ffeithiau Sylfaenol
- Hawlfraint: Deunydd Darllen Hanfodol
- Sut i Wneud Cais i Gofrestru Dyluniad
- Dyluniadau: Sut i Ddiogelu’ch Dyluniad
- Ffurflen Dyluniadau DF2A
- Nodau Masnach: Ffeithiau Cyflym
- Egluro Eiddo Deallusol - MyIP
- Cyfres Archwilio Iechyd Eiddo Deallusol
- Cytuno ar Bris ar gyfer Hawliau Eiddo Deallusol
- Trwyddedu Iechyd Eiddo Deallusol
- Cytundebau Gwrthod Dadlennu
- Dewis yr Ymgynghorydd Eiddo Deallusol Iawn
Os hoffech chi fersiwn Cymraeg o unrhyw rai o’n ffurflenni/llyfrynnau, cysylltwch â welsh@ipo.gov.uk neu ffonio 01633 813768.
An English version of this page is available.